Trydarieitheg:

YMCHWILIO YMLEDIAD CYFNEWIDIADAU MORFFOSYNTACTIG MEWN CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Grŵp o ymchwilwyr ydyn ni sy’n ymddiddori yn y ffyrdd y mae cyfnewidiadau ieithyddol yn lledu drwy'r boblogaeth. Er mwyn ateb cwestiynau am y gwahaniaethau rhwng siaradwyr a rhanbarthau, rydym yn defnyddio data o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter i greu darlun cyfredol o sut mae ieithoedd fel y Saesneg, y Gymraeg, y Norwyeg a’r Dwrceg yn newid ar hyn o bryd.

Am ragor o wybodaeth, mae gennym gyflwyniad cyffredin i'n hymchwil, a chyflwyniad mwy technegol i arbenigwyr. Drwy gydol y prosiect hwn, bydd cyflwyniadau a chyhoeddiadau ar gael yma; am newyddion, gweler ein tudalennau Twitter neu Facebook.

 Newyddion: Byddwn yn cynnal cynhadledd arlein ar amryiaeth a newid morffosyntactig fel rhan o'r prosiect ym mis Mawrth 2021. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!